Share:

Draft broadcast TV licences in the event of a ‘no-deal’ Brexit

Ofcom has today published draft TV broadcast licences which we propose to issue to new successful applicants in the event the UK leaves the EU without a withdrawal agreement in place (“no-deal Brexit”).

If the UK Government agrees an implementation period for Brexit with the EU, we understand that arrangements for the broadcasting sector will be unchanged for the duration of this period (currently until December 2020).

However, in the event of a no-deal Brexit, the regulation of television services in the UK would change, and some broadcasting licences will need to be amended to reflect that.

While existing licences would not immediately change in the event of no deal, we consider that some changes would be needed in the longer term. So, we welcome informal comments on the draft licences before 19 March 2019. Subject to comments received, we propose to issue these licences to new successful applicants from the date of exit.

In summer 2019, holders of existing licences for Television Licensable Content Services, Digital Television Programme Services and Digital Television Additional Services will have a further, and formal, opportunity to make representations on changes to their licences before we vary them to include the new licence conditions.

Trwyddedau drafft ar gyfer teledu sy’n cael ei ddarlledu os bydd Brexit ‘heb gytundeb’

Heddiw mae Ofcom wedi cyhoeddi trwyddedau drafft ar gyfer teledu sy’n cael ei ddarlledu – rydym yn bwriadu eu rhoi i ymgeiswyr llwyddiannus newydd os bydd y DU yn gadael yr UE heb gytundeb ymadael ar waith (“Brexit heb gytundeb”).

Os bydd Llywodraeth y DU yn cytuno ar gyfnod gweithredu ar gyfer Brexit â'r UE, rydym yn deall na fydd y trefniadau ar gyfer y sector darlledu yn newid yn ystod y cyfnod hwn (tan fis Rhagfyr 2020 ar hyn o bryd).

Fodd bynnag, os bydd Brexit heb gytundeb, byddai’r modd y mae’r gwasanaethau teledu yn cael eu rheoli yn y DU yn newid, a bydd angen addasu rhai trwyddedau darlledu i adlewyrchu hynny.

Er na fyddai’r trwyddedau presennol yn newid ar unwaith os nad oes cytundeb, rydym yn credu y byddai angen gwneud rhai newidiadau yn y tymor hwy. Felly, rydym yn croesawu sylwadau anffurfiol ar y trwyddedau drafft cyn 19 Mawrth 2019. Yn amodol ar y sylwadau sy’n dod i law, rydym yn bwriadu rhoi’r trwyddedau hyn i ymgeiswyr llwyddiannus newydd o'r dyddiad ymadael.

Yn ystod yr haf 2019, bydd cyfle ffurfiol arall i ddeiliaid trwyddedau ar gyfer Gwasanaethau Cynnwys Trwyddedadwy Teledu, Gwasanaethau Rhaglenni Teledu Digidol a Gwasanaethau Ychwanegol Teledu Digidol i wneud sylwadau ar newidiadau i'w trwyddedau cyn i ni eu hamrywio i gynnwys amodau’r drwydded newydd.